SL(5)242 – Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr llawn-amser sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2018/2019.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd benthyciwr dros fenthyciad at gostau byw o dan amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei gael.

Gweithdrefn

Negyddol.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Nodwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig “Cyllid a chymorth ar gyfer myfyrwyr o’r UE sy'n astudio yng Nghymru” ar 2 Gorffennaf 2018. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys y canlynol:

“Bydd gwladolion yr UE sy’n bwriadu astudio yng Nghymru am y flwyddyn academaidd 2019/20 yn gymwys i dalu’r un ffioedd dysgu â myfyrwyr o Gymru a byddant hefyd yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru – yn amodol ar y meini prawf sydd eisoes yn eu lle o ran cymhwystra. 

Mae hyn yn barhad o’r polisi presennol a bydd myfyrwyr yn parhau i dderbyn cymorth nes y byddant yn gorffen eu cwrs. Mae hyn yn berthnasol i holl gyllid myfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru y mae gwladolion yr UE yn gymwys amdano. Mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu (ar gyfer y rheiny sy'n byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd am dair blynedd), benthyciadau a grantiau cynnal  (yn gyfyngedig i'r rhai sy'n byw yn y DU am dair blynedd o leiaf), a rhai grantiau a lwfansau eraill.

Nid yw’r rheolau sy'n berthnasol i wladolion yr UE sydd wedi gwneud cais am le mewn prifysgol ym mlwyddyn academaidd 2018/19 i astudio cwrs sy'n denu cymorth i fyfyrwyr wedi newid. Bydd CMC yn asesu'r ceisiadau hyn yn erbyn y meini prawf presennol, a bydd yn darparu benthyciadau a/neu grantiau yn y ffordd arferol. Bydd gwladolion yr UE, neu aelodau o'u teulu, sy'n cael eu hasesu’n gymwys i gael grantiau a/neu fenthyciadau gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedyn yn gymwys drwy gydol eu hastudiaethau ar y cwrs hwnnw.”

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

11 Gorffennaf 2018